Eich Cyngor Ysgol- Grŵp o ddisgyblion a etholwyd i gynrychioli disgyblion eraill ydyw Cyngor Ysgol. Mae’r Cyngor Ysgol yn fan lle gall pobol ifanc siarad am yr hyn sy’n berthnasol i’w hysgol hwy, ac unrhyw fater arall sy’n eu pryderu. Bydd y cyngor ysgol yn cyflwyno syniadau i oedolion o fewn yr ysgol er mwyn rhoi llais i’r ifanc pan wneir penderfyniadau. - Gall bod yn rhan o’ch cyngor ysgol fod o fudd i chi yn ogystal â disgyblion eraill yn yr ysgol. Fe gewch chi brofiad gwerthfawr o weithio gydag eraill, dadlau dros faterion gwahanol, gwneud penderfyniadau a chyflwyno syniadau. - Cliciwch ar gyswllt y Cyfarwyddiadur cyngor ysgol (Mewn ffenest newydd) er mwyn gwybod beth mae cynghorau ysgol Sir Benfro wedi’i gyflawni.
|
||
ID: 2727 Adolygwyd: 17/2/2010