Gennex
Prosiect Cymryd Rhan i bobol ifanc yn Sir Benfro ydyw Gennex. Mae'n rhoi cyfle i bobol ifanc i fod yn rhan o wneud penderfyniadau neu gynllunio neu adolygu unrhyw weithred allai eu heffeithio.
Fforymau Cymunedol, sy'n digwydd drwy holl ganolfannau ieuenctid Sir Benfro ac sy'n anelu at fod yn fwy cynrychiadol o gymunedau trwy ymdrechu i weithio gyda grwpiau ieuenctid eraill megis CFfI, Sgowtiaid, Geidiaid, Cadetiaid etc... gwriwch dudalennau unigol y fforymau am fanylion...
Fforymau Diddordeb Arbenigol, sy'n tynnu at ei gilydd pobol ifanc sydd â'r un achosion/diddordebau. Mae Gennex ar hyn o bryd yn trefnu fforymau arbenigol i ofalwyr ifanc, pobol ifanc sy'n derbyn gofal (Fforwm-X) a phobol ifanc anabl (Lleisiau'r Ifanc yn Dewis)
Mae Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro, yn anelu at gynrychioli yr ieuenctid i gyd ar draws Sir Benfro. Mae cyfarfodydd yn digwydd drwy'r flwyddyn gyda dau gynrychiolydd o bob fforwm pobol ifanc ardal, fforymau diddordeb arbenigol a chynghorau ysgol. Mae'r cynrychiolwyr yn bwydo gwybodaeth berthnasol i ac oddi wrth y Cynulliad.
Bydd y Cynulliad Ieuenctid hefyd yn bwydo ar lefel genedlaethol i'r Draig Ffynci (Mewn ffenest newydd) (Cynulliad Plant a Phobol Ifanc Cymru) a Comisiynydd Plant Cymru (Mewn ffenest newydd)
Am fwy o ffotograffau Gennex Flickr (Mewn ffenest newydd)
Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os hoffech chi gymryd rhan yna cysylltwch â thîm Gennex, os gwelwch yn dda, ar:
Nadine Farmer
Pembroke Dock Youth Centre,
Bush Street,
Pembroke Dock,
SA72 6HQ.
Tel: (01646) 680863
Mobile: (07795) 612917
Cofiwch 'Cael llais, cael dewis'
ID: 351 Adolygwyd: 7/11/2012
