Y Wobr yn Sir Benfro
Mae dros 400 o bobl ifanc yn cymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin yn Sir Benfro ar adeg benodol.
Mae 12% o'r bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol wedi cael Gwobr - mae llawer ohonynt wedi cael y tair gwobr gan fod gennym enw da iawn am gynnig y Wobr Aur, sef y wobr orau un.
Mae'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y Wobr yn Sir Benfro yn cael cyfle i deithio yn rhan o'u rhaglen weithgareddau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf maent wedi teithio i Ganada, Romania, Costa Rica, Ffrainc, America a Sbaen i enwi ond ychydig, ac mae ein tripiau i'r Alban ac Iwerddon wedi bod yn boblogaidd iawn. Edrychwch ar yr oriel i weld lluniau o'r hyn y mae'r bobl ifanc wedi bod yn ei wneud er mwyn cael eu Gwobrau.
Mae pob ysgol uwchradd yn Sir Benfro yn cynnig Gwobr Dug Caeredin ar y tair lefel.
|
Ysgol y Preseli |
Caroline Wilson, Eleri Thomas |
|
Ysgol Dewi Sant |
Mrs Bennett, Mrs Lounds |
|
Ysgol Bro Gwaun |
Mr Woodman, Andy Jones |
|
Ysgol Syr Thomas Picton |
Mr a Mrs Milne, Mrs Tamsett |
|
Ysgol Tasker Milward |
Mr Roberts, Dave Sommerville |
|
Ysgol Aberdaugleddau |
Miss Dootson, Mr Williams |
|
Ysgol Greenhill |
Mrs Unwin |
|
Ysgol Penfro |
Mr J Jones |
|
Ysgol Portfield |
Miss Watton |
|
Uned Cyfeirio Disgyblion Neyland |
Kimberley Davies |
Mae gennym hefyd 3 Canolfan Wobrau Agored yn Abergwaun, Crymych a Hwlffordd sydd ar agor i unrhyw un rhwng 14 a 25 oed. Gallwch gael manylion cysylltu a gwybodaeth am amseroedd y cyfarfodydd drwy ffonio Dave Sommerville ar 01437 775235 neu drwy anfon ebost.
Mae'r clybiau ieuenctid a'r mudiadau gwirfoddol isod hefyd yn cynnig y Wobr ond nid yw pob un yn cynnig tair lefel y Wobr:
|
Clwb Ieuenctid Abergwaun |
Claire Walling |
|
Canolfan Ieuenctid Tanyard |
Alex Rogers |
|
Diffoddwyr Tân Ifanc Doc Penfro |
Paul Dyson |
|
Clybiau Ffermwyr Ifanc |
Mike Williams, Georgina Cornock |
|
Geidiaid Ardal Preseli |
Caroline Wilson |
Os hoffech fod yn arweinydd gyda Gwobr Dug Caeredin yn Sir Benfro ffoniwch Dave Sommerville ar 01437 775235 neu anfonwch ebost.
ID: 139 Adolygwyd: 8/12/2011
