Ffitio’r Darlun Ehangach
Mae nifer o ffyrdd y gallai cynghorau ysgol Sir Benfro ffitio i mewn i'r gwaith sy'n mynd ymlaen yn lleol ac yn genedlaethol.
Draig Ffynci
Cynulliad Pobol Ifanc Cymru ydyw'r Ddraig Ffynci. Mae'n rhoi cyfle i bobol ifanc gael dweud eu dweud yngl?n â materion sy'n eu heffeithio. Mae'r Ddraig Ffynci yn ceisio cynrychioli cymaint o bobol ifanc a phlant ag sy'n bosibl ac yn gweithio gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn ceisio cael newid.
Prif dasgau'r Ddraig Ffynci ydyw gwneud yn siwr fod barn y plant a'r bobol ifanc yn cael gwrandawiad yn enwedig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (WAG) ac i gefnogi cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol.
Am fwy o wybodaeth ewch i'r wefan:
Draig Ffynci wefan (Mewn ffenest newydd)
Partneriaethau Lleol
Sefydlwyd Partneriaethau Plant a Phobol Ifanc i gynllunio a chydlynu gwasanaethau i blant a phobol ifanc ar lefel lleol.
Mae'r partneriaethau hyn yn ceisio sicrhau fod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfleoedd i rannu eu barn a chael eu clywed.
Am fwy o wybodaeth ewch i'r wefan:
Sir Benfro PPPHI (Mewn ffenest newydd)
Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro
Mae'r mwyfarif o awdurdodau lleol wedi sefydlu Cynulliad Ieuenctid neu Fforymau Ieuenctid i helpu pobol ifanc ar lefel lleol i ddatblygu y sgiliau a'r hyder i fynegi barn a dylanwadu ar wneud penderfyniadau.
ID: 693 Adolygwyd: 2/2/2012
