Hamdden Sir Benfro Cinio Gyda Leni Clic Online Her Iechyd Sir Benfro
look again |
*

Tour de Tenby

 Bu mwy na 200 o ddisgyblion ysgol yn cymryd rhan mewn "Tour de Tenby" yr wythnos diwethaf.

Plant ifanc o ysgolion Cynradd Greenhill a Dinbych-y-pysgod oeddent, ac fe wnaethant lwyddo i gwpla'r daith ddwy filltir o amgylch y dref glan môr ar ddydd Gwener.

Taith flynyddol o amgylch y dref ydyw a bwriad y reid yw hybu seiclo.  Dyma'r trydydd tro iddi gael ei chynnal.

"Diben hyn i gyd yw annog pobl ifanc i fynd ar eu beiciau a meddwl am ffyrdd eraill o deithio yn lle mynd yn y car," meddai Paul Smith, swyddog yn yr Adran Cerdded, Seiclo a Reidio Ceffylau sydd gan Gyngor Sir Penfro.

"Ei bwriad hefyd yw sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr yn ymgynefino â gweld pobl ifanc mas ar eu beiciau.  Wedyn gallant roi digonedd o le iddynt fynd ar hyd y fan yn rhwydd."

Cafodd reid feiciau flynyddol Dinbych-y-pysgod ei threfnu gan Bennaeth Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod, Jan Llewellyn ac un o'r athrawon Julia Wood.  Cawsant gymorth hefyd gan Wyndham Williams, swyddog 5x60 Chwaraeon Sir Benfro, sydd wedi'i leoli yn Greenhill.

Fe wnaeth y bobl ifanc gwpla cylchdaith o gwmpas y dref, ac roedd y llwybr teithio yn mynd â hwy trwy'r Stryd Fawr, Sgwâr Tudur a Kiln Park.

Yn ogystal â'r reidwyr eu hunan, roedd 25 o swyddogion ar ddyletswydd hefyd gan gynnwys staff ysgol, rhieni ac aelodau Clwb Seiclo Tenby Aces, ynghyd â'r heddlu lleol a aeth ati i reoli'r reid a'r traffig hefyd.

Geiriad
Byddwch barod i bedlo: Dyma'r seiclwyr ifanc ar fuarth chwarae Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod, wrth iddynt baratoi i gychwyn ar eu taith o amgylch y dref

 

 

 


 



ID: 3868   Adolygwyd: 23/7/2010

Cylchgrawn


Follow us on Twitter

Like us on Facebook

View our Photos