Hamdden Sir Benfro Cinio Gyda Leni Clic Online Her Iechyd Sir Benfro
look again |
*

Chwarae yn y parc yr haf yma

 

Bydd tîm o weithwyr chwarae yn mynd i barciau a mannau agored ledled Sir Benfro unwaith yn rhagor yr haf yma.

Bydd y tîm teithiol "Chwarae yn y Parc" sydd gan Gyngor Sir Penfro yn cynorthwyo plant ifanc y Sir i gymryd rhan yn eu dewis gemau.

Trwy gydol gwyliau'r haf bydd y tîm ar waith mewn rhagor o wahanol fannau nag erioed o'r blaen ac mae hynny'n cynnwys safleoedd newydd yng Nghilgerran a Dinbych-y-pysgod. 

Ac am y tro cyntaf un bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys sesiynau Chwarae yn y Parc Cenedlaethol.

Mae'r tîm hwn wedi cael hyfforddiant arbennig ym maes gemau a chwaraeon plant a bydd e'n helpu'r plant ifanc i adeiladu cuddfannau, reidio go-certi, gwneud siglenni teiars, paentio, gwneud lluniau neu gymryd rhan mewn chwaraeon.

Bydd y plant yn gallu dod i roi cynnig arni fel y mynnant yn ystod y sesiynau, er y dylid rhybuddio'r rhieni y gallai eu plantos fod braidd yn frwnt, gwlyb gyda llaca arnynt pan fyddant yn dod adref!

Yn ogystal â Phrosiect Chwarae yn y Parc, bydd y tîm gweithredu dros chwarae hefyd yn cynnal sesiynau Hwyl a Sbri dan do yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol. Bydd croeso mawr i'w rhieni ddod gyda hwy hefyd.

Er mwyn cael y manylion ynghylch pryd a ble y cynhelir y prosiect chwarae yn eich ardal, neu er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y sesiynau Hwyl a Sbri, gallwch fewngofnodi ar www.pembrokeshire.gov.uk neu ffonio swyddfa'r Bartneriaeth Gofal Plant ar 01646 683919 neu ewch at infochildcarepartnership@pembrokeshire.gov.uk

 

What`s New

 



ID: 3867   Adolygwyd: 23/7/2010

Cylchgrawn


Follow us on Twitter

Like us on Facebook

View our Photos