Hamdden Sir Benfro Cinio Gyda Leni Clic Online Her Iechyd Sir Benfro
look again |
*

Gweithgareddau'r Haf Hwn!

 

Nid oes unrhyw esgus dros fynd yn ddiflas yr haf hwn, gyda llu o weithgareddau cyffrous wedi'u trefnu gan Gyngor Sir Penfro, ar gyfer plant a phobl ifanc o bob oedran a gallu. 

 
Chwaraeon Sir Benfro
Gwersyll pêl-droed hwyl
Mae Chwaraeon Sir Benfro'n rhedeg Gwersyll Pêl-droed Hwyl ar gyfer bechgyn a merched rhwng 5 a 11 oed o bob gallu yn ystod gwyliau'r haf. Bydd y diwrnodau'n rhedeg rhwng 10am a 3pm ac yn costio £12.50 y diwrnod. Byddant yn cynnwys ymarfer sgiliau, gweithgareddau hwyliog a gemau, gyda phwyslais yn bennaf ar hwyl a chymryd rhan.  Mae amserlen y sesiynau fel a ganlyn:  
 
 

Clwb Pêl-droed Sirol, Hwlffordd
26 Gorffennaf 2010
 
27 Gorffennaf 2010
 
28 Gorffennaf 2010
 
29 Gorffennaf 2010
 
 
Clwb Pêl-droed Treletert
2 Awst 2010
 
3 Awst 2010
 
4 Awst 2010
 
5 Awst 2010
 
 
Clwb Pêl-droed Pennar Robins
9 Awst 2010
 
10 Awst 2010
 
11 Awst 2010
 
12 Awst 2010
 
 
Clwb Pêl-droed Sirol, Hwlffordd
16 Awst 2010
 
17 Awst 2010
 
18 Awst 2010
 
19 Awst 2010
 
 
Clwb Pêl-droed Hakin United
23 Awst 2010
 
24 Awst 2010
 
25 Awst 2010
 
26 Awst 2010


Mae lleoedd yn gyfyngedig felly os oes diddordeb gennych mewn archebu lle, cysylltwch â Dan Bellis, Cydlynydd Pêl-droed Hwyl, ar 07920 702044 neu drwy anfon neges e-bost at daniel.bellis@pembrokeshire.gov.uk   

 
Activity Xtra! 2010
Yn ystod haf 2009, cynhaliodd Cyngor Sir Penfro Activity Xtra, prosiect gweithgareddau strwythuredig i grwpiau o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, o 8 i 18 oed.
Roedd Activity Xtra yn cynnwys rhaglen llawn dop o ddiwrnodau gweithgareddau cyffrous. Darparwyd cludiant o bwyntiau codi penodedig ledled y sir.
Er bod y gweithgareddau i'w cadarnhau eto, rydym yn bwriadu cynnal y prosiect eto'r haf hwn ar y dyddiadau canlynol:

8-13 OED


Mercher Awst 11

Llun, Awst 16

Mercher, Awst 18

Llun, Awst 23

Mercher Awst 25

 

14 -18 OED

 

Iau, Awst 12

Mawrth, Awst 17

Iau, Awst 19

Mawrth, Awst 24

Iau, Awst 26



Os ydych yn rhiant/gofalwr plentyn sydd ag anghenion ychwanegol a hoffech gael gwybodaeth am fynychu Activity Xtra, cysylltwch â Swyddfa'r Bartneriaeth Gofal Plant ar 01646 683919 neu drwy anfon neges e-bost at infochildcarepartnership@pembrokeshire.gov.uk.



 
Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Benfro


Her Ddarllen yr Haf


Mae ‘Her Ddarllen yr Haf' Llyfrgelloedd Sir Benfro yn annog plant rhwng  4 ac 11 oed i ddarllen chwe llyfr dros gyfnod yr haf.  Gan mai ‘Neidio i'r Gofod' yw'r thema eleni bydd sesiynau dweud stori a gweithgareddau'n troi o gwmpas teithio yn y gofod ac arallfydwyr.   


Mae'r llyfrgelloedd sy'n cymryd rhan yn cynnwys:
* Llyfrgell Doc Penfro
* Llyfrgell Abergwaun
* Llyfrgell Hwlffordd
* Llyfrgell Aberdaugleddau
* Llyfrgell Neyland
* Llyfrgell Dinbych-y-pysgod
I gael mwy o wybodaeth am Her Ddarllen yr Haf, cysylltwch â Pam Anthony, Llyfrgellydd Plant a Phobl Ifanc, ar 01437 776089 neu drwy anfon neges e-bost at pamela.anthony@pembrokeshire.gov.uk.
Lawrlwythwch  amserlen Her Ddarllen yr Haf nawr! 

 
Rhaglen Haf Ieuenctid Sir Benfro


Mae Rhaglen Haf Ieuenctid Sir Benfro'n rhedeg yn ystod mis Awst, gan gynnig ystod o weithgareddau ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, sy'n byw yn y sir.
Anogir unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan i gysylltu â'r gweithwyr isod i gael mwy o wybodaeth:


I gael gwybodaeth am weithgareddau yn Rhaglen Haf Ieuenctid Gogledd Sir Benfro, cysylltwch â Heidi Holland ar 01437 775845 neu 07833354621, neu â Liz Griffiths ar 01437 776635 neu 07990781360.
I gael gwybodaeth am weithgareddau yn  Rhaglen Haf Ieuenctid De Sir Benfro (ardal Dinbych-y-pysgod) cysylltwch ag Anthony Harris ar 07818011660.
I gael gwybodaeth am weithgareddau yn Rhaglen Haf Ieuenctid De Sir Benfro (ardal Doc Penfro) cysylltwch â Matt Done ar 01646 682823 neu 07768291525.
Neu am fwy o wybodaeth ewch i  www.pembrokeshireyouthzone.co.uk 

 
Chwarae yn y Parc


Cadwch lygad am y Tîm Gweithgaredd Chwarae, a fydd yn ymweld â pharciau a lleoedd agored ledled Sir Benfro yn ystod gwyliau'r haf.
Hwyl Ffantastig! Haf 2010


Sesiynau chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd.
Chwarae yn y Parc Cenedlaethol      
Am fwy o hwyl fyth edrychwch ar ein sesiynau Chwarae yn y Parc Cenedlaethol, chwaraewch wrth archwilio Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Noder o dan delerau Chwarae Mynediad Agored na wneir contract rhwng gweithwyr chwarae a rhieni/gofalwyr i ddarparu gofal o unrhyw hyd tra bo plentyn yn bresennol yn Chwarae yn y Parc, Hwyl Ffantastig neu Chwarae yn y Parc Cenedlaethol.
Yn ystod y sesiynau bydd plant yn rhydd i fynd a dod. 
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa'r Bartneriaeth Gofal Plant ar 01646 683919 neu drwy anfon neges e-bost at infochildcarepartnership@pembrokeshire.gov.uk.


Hwyl yr Haf 2010 


 
Hamdden Sir Benfro ac Ysgolion Cymuned-Ganolog
Dros yr haf, bydd Gwasanaeth Hamdden Sir Benfro ac Ysgolion Cymuned-Ganolog yn cynnal ystod o weithgareddau ffantastig ar gyfer plant o bob oedran. 
Mae Rhaglen yr Haf eleni'n llawn dop o weithgareddau megis tennis, nofio, athletau a phêl droed, yn ogystal â phrosiectau hwyliog Cymuned-Ganolog gan gynnwys Clwb Dyfeisiadau, Clwb Coginio a'r Academi Animeiddio. 
I ofyn am gopi o'r Rhaglen Haf llawn, neu am ddadansoddiad llawn o beth sydd ymlaen, neu am wybodaeth am bolisïau a thaliadau mynediad, cysylltwch â:  
 
 
Julie Collings
Alastair Birch
Gwasanaeth Hamdden Sir Benfro
Ysgolion Cymuned Canolog
01437 775461
01437 775031
Julie.Collings@pembrokeshire.gov.uk
Alastair.Birch@pembrokeshire.gov.uk  

 


 



ID: 3857   Adolygwyd: 20/7/2010

Cylchgrawn


Follow us on Twitter

Like us on Facebook

View our Photos