Awst 2010Wythnos Genedlaethol y Môr 31 Gorffennaf - 15 Awst 2010
Yn ystod Wythnos y Môr gallwch ymuno ag Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt i ddathlu anifeiliaid a phlanhigion rhyfeddol y DU. Cymerwch y cyfle i archwilio glan y môr, darganfod y twyni ac ymdrochi gyda gwichiaid moch .
Mae amgylchedd morol y DU yn cynnig hafan i rai o'n bywyd gwyllt mwyaf gwefreiddiol fel heulforgwn, morloi llwyd, pâlod a dolffiniaid.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Wythnos y Môr ewch i: www.wildlifetrusts.org (Mewn ffenest newydd)
Diwrnod Rhyngwladol Unigolion Llawchwith 13 Awst 2010
Nod Diwrnod Rhyngwladol Unigolion Llawchwith yw codi ymwybyddiaeth o'r heriau mae pobl lawchwith yn eu hwynebu bob dydd wrth fyw mewn byd mor llawdde.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Diwrnod Rhyngwladol Unigolion Llawchwith ewch i: http://www.left-handersday.com (Mewn ffenest newydd)
Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid 12 Awst 2010
Mae Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid yn gyfle i lywodraethau ac eraill i dynnu sylw at faterion ieuenctid ar draws y byd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Ieuenctid mae pobl ar hyd a lled y byd yn trefnu cyngherddau, codi arian, gweithdai, cyfarfodydd a ralïau sy'n cynnwys pobl ifanc a sefydliadau ieuenctid, swyddogion lleol a chenedlaethol.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid yn gyfle i lywodraethau ac eraill dynnu ein sylw at faterion ieuenctid byd-eang.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid ewch i: www.un.org (Mewn ffenest newydd)
|
||
ID: 3841 Adolygwyd: 23/7/2010

