Atyniadau
Mae dewis eang o atyniadau ar gael i chi yn Sir Benfro, mae rhai am ddim ac mae'n rhaid talu am rai eraill, ond maent i gyd yn cynnig diwrnod allan unigryw yng Nghefn Gwlad Sir Benfro.
Dyma ychydig o'r atyniadau sydd gan y Sir i'w cynnig:
- Canllaw Traethau Sir Benfro.
- Cestyll Sir Benfro.
- Maenor Scolton (Mae gan Amgueddfa'r Sir filoedd o wrthrychau yn ei harddangosfa sy'n portreadu hanes y Sir)
- Oakwood (Parc Thema)
- Folly Farm (Atyniad Parc Thema Anturiaethus a Sw)
- Manor House Wildlife Park (Sw Gwyllt Cymreig)
- Heatherton (Parc Thema Gweithgareddau)
- Castell Henllys (Bryngaer Oes Haearn wedi ei hail-adeiladu)
- Phoenix Bowl (Bowlio deg a Chwarae Antur Pete y Môr-leidr)
- Battlefield LIVE Pembrokeshire (gêm brwydro yn yr awyr agored gan ddefnyddio'r dechnoleg is-goch ddiweddaraf)
ID: 111 Adolygwyd: 23/4/2012
