Y Gyfraith a Hawliau
Y Gyfraith
Mae dwy fath o gyfraith:
- Trosedd (Mae cyfraith trosedd yn rhestru'r hyn yw ‘trosedd' a'r cosbau)
- Sifil (Mae cyfraith sifil yn delio â meysydd y gyfraith nad ydynt yn ymwneud â throsedd megis hawliau defnyddiwr, hawliau tai etc...)
Mae cyfreithiau yno i gynnal eich hawliau dynol a'ch cadw'n ddiogel. Mae arnoch angen gwybod a deall y gyfraith - gall fod yn gymhleth ac yn ddryslyd felly dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu.
Mae gan Cyngor ar Bopeth adran wych o'r enw Pobl Ifanc a'r Gyfraith.
Fe all eich Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) leol roi cyngor am ddim ac annibynnol i chi ar faterion cyfreithiol.
|
Hwlffordd |
43 Cartlett, Hwlffordd SA61 2LH. |
|
Doc Penfro |
38 Meyrick St, Doc Penfro SA72 6UT. |
Lleoliadau Canolfannau eraill:
- Abergwaun
- Wdig
- Neuadd y Dref, Aberdaugleddau
- Tyddewi
- Canolfan Dysgu Cymunedol Dinbych-y-pysgod
- Ysbyty Lleol Dinbych-y-pysgod
I gael rhagor o wybodaeth Canolfan Cyngor ar Bopeth
Hawliau
Yn y rhan fwyaf o agweddau ar eich bywyd, mae gennych hawliau penodol. Nid yw hyn yn golygu y gallwch wneud unrhyw beth yr hoffech ond gallwch ddisgwyl cael eich trin mewn modd penodol a gaiff ei lywodraethu gan gyfraith y DU, Ewropeaidd a Rhyngwladol.
Rhai enghreifftiau o'r hawliau y gallech fod wedi clywed amdanynt o'r blaen yw:
- Hawliau Defnyddiwr
Pan brynwch chi rywbeth, rydych yn ymrwymo i gytundeb â'r gwerthwr. Cewch eich galw'n ddefnyddiwr, gan mai chi yw'r un sydd wedi prynu'r eitem. Fel defnyddiwr, mae gennych hawliau. Dylai eich eitem fod...
Os nad yw'r hyn rydych wedi ei brynu yn bodloni un o'r rhain, mae gennych yr hawl i gael eich arian yn ôl gan y gwerthwr. Ceir rhagor o wybodaeth am eich hawliau defnyddiwr ar y wefan Safonau Masnach
- Hawliau Dynol.
Rydym oll yn haeddu cael ein trin fel bodau dynol. Golyga hyn fod gennym hawliau penodol y gallwn eu mynnu ac y gall eraill eu disgwyl gennym. Gelwir y rhain yn hawliau dynol. Cyfeiria hyn at bethau yn gyffredinol megis:
- Yr hawl i fyw.
- Rhyddid.
- Urddas.
Mae hefyd yn cynnwys:
- Artaith.
- Caethwasiaeth.
- Llafur gorfodol.
- Rhyddid meddwl/mynegi.
- Crefydd.
- Gwahaniaethu.
- Addysg.
Yn ogystal â'r gyfraith sy'n amddiffyn ein hawliau dynol, mae cymdeithasau hefyd yn ymgyrchu dros hawliau o amgylch y byd megis Amnest Rhyngwladol.
ID: 97 Adolygwyd: 21/11/2011
