Gwasanaeth Tecstio Brook
Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn rhoi gwybodaeth ar unwaith i bobl ifanc am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, atal cenhedlu a chwnsela yn ogystal â manylion am y clinig cynghori agosaf ar gyfer iechyd pobl ifanc yn Sir Benfro, i gyd drwy eu ffonau symudol.
Defnyddio'r gwasanaeth tecstio:
Anfonwch neges destun â'r geiriau BROOK HELP i 81222 i gael cyflwyniad i'r gwasanaeth.
Neu, i gael gwybodaeth awtomedig am iechyd rhywiol, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw:
- Creu neges destun newydd, â'r geiriau allweddol 'BROOK INFO'.
- Anfon y neges i 81222.
- Yna byddwch yn cael rhestr o bynciau gwybodaeth i ddewis ohoni.
- Dewis rhif y pwnc y mae arnoch eisiau gwybodaeth amdano, pwyso ateb, teipio'r rhif ac anfon.
Bydd eich neges destun yn cael ei chyfeirio at wasanaeth awtomedig a dylech gael ateb ymhen ychydig funudau.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y diwrnod.
I gael manylion am wasanaethau iechyd rhywiol i bobl ifanc yn Sir Benfro dyma'r hyn sydd arnoch angen ei wneud:
- Creu neges destun newydd, yn dechrau â'r geiriau allweddol 'BROOK SERVICE', wedi'u dilyn gan eich cod post, e.e. BROOK SERVICE SA67 8FS.
- Anfon y neges i 81222.
- Yna byddwch yn cael rhestr o wahanol fathau o wasanaethau i ddewis ohoni. Dewiswch rif y gwasanaeth y mae arnoch eisiau gwybodaeth amdano, pwyswch ateb, teipiwch y rhif ac anfonwch y neges.
- Bydd eich neges destun yn cael ei chyfeirio at y tîm Gwasanaeth Gwybodaeth Pobl Ifanc, a fydd yn anfon neges destun yn ôl â manylion gwasanaeth yn eich ardal cyn gynted ag y bo modd yn ystod oriau agor Brook, sef 9.00am tan 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os oes arnoch angen help ar frys y tu allan i'r oriau agor, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
ID: 306 Adolygwyd: 8/12/2011
