HIV ac AIDS
Mae HIV yn dalfyriad o Human Immunodeficiency Virus (Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol) ac mae'n effeithio ar system imiwnedd y corff. Yn aml iawn defnyddir y term "HIV positif" wrth sôn am bobl sydd â'r feirws HIV. Os nad yw HIV yn cael ei drin, mae'r system imiwnedd yn gwanhau ymhen amser, ac yn gadael y corff yn agored i heintiau a chanser. Pan mae'r heintiau'n mynd yn rhai difrifol, rydym yn gwybod bod gan yr unigolyn AIDS (Syndrom Diffyg Imiwnedd Caffaeledig).
Gallwch ddarganfod a yw'r feirws HIV gennych drwy gael prawf gwaed syml. Yn Sir Benfro mae gwasanaeth arbenigol ar gyfer HIV, AIDS a feirysau eraill sy'n cael eu cludo yn y gwaed, sy'n cynnig cymorth a chwnsela i unrhyw un sy'n dymuno cael profion ar gyfer:
- HIV
- Hepatitis B
- Hepatitis C
- Siffilis
Mae'r profion i gyd yn gwbl gyfrinachol, ac yn ddienw, ac maent ar gael ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener yn Ysbyty'r Llwyn Helyg.
Cysylltwch â Janice Rees - (01437) 773125
ID: 290 Adolygwyd: 8/12/2011
