Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol
Os ydych yn cael rhyw heb ddiogelwch, gallwch gael haint gan eich partner a'i drosglwyddo i'ch partner nesaf. Mae'r rhan fwyaf o'r heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn rhai y gellir eu trin yn hawdd os ydynt yn cael eu darganfod yn gynnar, ond gwell bod yn ddiogel nag yn edifar, ac er mwyn sicrhau nad ydych yn cael haint a drosglwyddir yn rhywiol dylech ddefnyddio condom.
Mae'r symptomau cyffredin yn cynnwys:
- Rhedlif ac Arogl Anarferol
- Angen pasio dŵr yn amlach nag arfer
- Cosi
- Brech
- Lympiau
- Swigod
- Poen wrth gael Rhyw
- Gwaedu ar ôl Rhyw neu Rhwng Cyfnodau'r Mislif
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ewch i:
Teenage Health Freak (mewn ffenestr newydd)
Pe baech yn cael haint a drosglwyddir yn rhywiol, gall gymryd rhwng 2 ddiwrnod a 4 wythnos i ddatblygu, ond yn aml iawn does gan heintiau fel Clamydia a HIV ddim symptomau o gwbl.
Os ydych yn credu y gallai fod gennych haint a drosglwyddir yn rhywiol dylech fynd i weld eich meddyg teulu, neu fynd i Glinig Meddygaeth Genhedlol-Wrinol (GUM) neu Glinig Cynllunio Teulu cyn gynted ag y bo modd.
Os oes gennych haint a drosglwyddir yn rhywiol, bydd angen i chi ddweud wrth eich partner presennol a chynbartneriaid er mwyn iddynt hwy gael eu harchwilio hefyd.
ID: 288 Adolygwyd: 8/12/2011
