Atal Cenhedlu Brys
Mae pethau'n gallu mynd o chwith weithiau.
- Efallai eich bod wedi anghofio cymryd y bilsen?
- Efallai nad yw eich dull atal cenhedlu arferol wedi gweithio?
- Yn ddifeddwl, efallai eich bod wedi cymryd siawns, a'ch bod yn edifar erbyn hyn?
Sut mae cael dulliau atal cenhedlu brys?
Gallwch gael dulliau atal cenhedlu brys gan y canlynol:
- Clinigau Cynllunio Teulu
- Unrhyw feddyg teulu (does dim rhaid i chi fynd at eich meddyg eich hun)
- Adran Damweiniau ac Achosion Brys eich Ysbyty Cyffredinol lleol
- Y Fferyllfa - dros y cownter
Mae atal cenhedlu brys ar gael AM DDIM hefyd i ferched 13 oed neu hŷn yn y rhan fwyaf o'r fferyllfeydd.
Mae'r gwasanaethau hyn yn gyfrinachol.
Dilynwch y ddolen gyswllt i gael rhestr o Fferyllfeydd sy'n Cynnig Dulliau Atal Cenhedlu Brys (mewn ffenestr newydd). Byddai'n syniad da rhoi caniad iddynt yn gyntaf i gael gwybod pryd fydd y fferyllydd ar ddyletswydd.
ID: 286 Adolygwyd: 10/9/2012
