Teulu a Pherthnasau
Mae llawer ohonom yn gorfod ymdopi â newidiadau yn ein teuluoedd yn ystod ein hoes. Efallai y byddwch yn gadael cartref, ac yn mynd i fyw gyda pherthynas arall neu rieni ffrind, neu'n ymuno â phobl eraill mewn llysdeulu, neu'n mynd i fyw gyda gofalwyr maeth neu rieni mabwysiadu newydd. Efallai y byddwch yn gadael cartref i fyw gyda'ch partner neu ffrindiau yn y brifysgol.
Mae'r cysylltiad sy'n bodoli rhwng aelodau o'r teulu'n bwysig iawn, a gall aelodau hŷn o'ch teulu gynnig cyngor da iawn i chi.
'Dyw bywyd teuluol ddim yn fêl i gyd fodd bynnag. Mae pethau'n gallu bod yn anodd mewn teulu, lle rydych yn adnabod eich gilydd yn dda iawn ac yn mynd ar nerfau eich gilydd weithiau.
Cofiwch nad oes yna'r fath beth â theulu normal lle mae pawb yn ffrindiau mawr drwy'r adeg, felly ceisiwch gadw pethau yn eu persbectif.
Gwasanaeth eiriolaeth (Mewn ffenest newydd)
ID: 160 Adolygwyd: 5/7/2012
