Pam y dylwn i gofrestru?
Efallai eich bod yn meddwl nad ydych am bleidleisio yn awr, ond os bydd mater yn codi yr hoffech chi ddweud eich dweud arno, os ydych ar y gofrestr, bydd gennych gyfle i bleidleisio arno. Cofiwch, nid yw'r ffaith eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn golygu bod rhaid i chi, mae'n golygu eich bod yn medru pe dymunech.
Pwyntiau i'w cofio!
- Mae'n ofyniad cyfreithiol eich bod yn cofrestru i bleidleisio.
- Nid yw'n orfodol eich bod yn pleidleisio ond mae'n orfodol eich bod yn cofrestru.
- Mae'n rhaid i chi gofrestru yn flynyddol.
Ni allwch bleidleisio os nad yw eich enw wedi'i gynnwys ar y gofrestr!
Clip fideo - Cofrestru i bleidleisio (agor ffenestr newydd)
ID: 92 Adolygwyd: 21/11/2011
