Cylchfa Sir Benfro

Diwylliant a Threftadaeth


Y gred yw y bu pobl yn preswylio yng Nghymru, fel darn o dir, ers 250,000 CC. Fel Gwlad, dechreuodd Cymru yn sgil Deddf Uno Harri'r VIII yn 1536.

Mae'r Cymry heddiw yn ddisgynyddion i lawer o bobl - daeth llwythi Celtaidd o Ewrop i ymgartrefu yng Nghymru tua 500-100 CC, ochr yn ochr â phoblogaeth wreiddiol yr Oes Haearn.

Mae Cymru'n Wlad a chanddi ddwy iaith: Cymraeg a Saesneg. Mae'r iaith Gymraeg yn parhau i ffynnu diolch i addysg cyfrwng Cymraeg, diwydiant cyfryngau bywiog a brwdfrydedd y bobl sy'n byw yng Nghymru.

Mae'r cennin pedr a'r genhinen yn flodau cenedlaethol yng Nghymru. Ceir un math o gennin pedr, narcissus obvallaris, mewn ardal fach o amgylch Dinbych-y-pysgod yn unig.

Yn ôl y chwedl, gorchmynnodd Dewi Sant ei filwyr Cymreig i nodi eu hunain drwy wisgo cennin ar eu helmedau mewn brwydr hynafol yn erbyn y Sacsoniaid a ddigwyddodd mewn cae llawn cennin.

Agweddau eraill ar fywyd Cymreig yw:

  • Rygbi (gêm a gaiff ei dilyn gan y rhan fwyaf o bobl, yn enwedig yn Ne Cymru)
  • Dylan Thomas (ysgrifennwr mwyaf enwog Cymru)
  • Pobl y Cwm (Sebon cyfrwng Cymraeg sy'n enwog am fod yn un o'r hynaf ar y teledu)
  • Bwyd traddodiadol (cocos a bara lawr a gaiff ei wneud o wymon, picau ar y maen a bara brith, sef cacen ffrwythau Cymreig)
  • Llwyau caru (cerfiodd dynion lwyau caru cymhleth fel arwydd o'u cariad gan nad oedd llawer o'r dynion yn yr ail ganrif ar bymtheg yn medru darllen nac ysgrifennu)

Mae diwylliant Cymru yn amrywiol iawn. Mae pob agwedd ar gelfyddydau yn cael eu cynrychioli yn y ddwy iaith - ceir orielau, theatrau, amgueddfeydd, neuaddau cyngerdd etc... sydd oll yn cynnal ac yn cefnogi sawl gweithgaredd diwylliannol.

Mae teithio dramor a dysgu am ieithoedd ac arferion gwledydd eraill yn ffyrdd gwych o ddysgu rhagor am ddiwylliannau eraill.

 





ID: 87 Adolygwyd: 21/11/2011