Pasbortau a Theithebau
Pasbortau: Os ydych yn teithio'r tu allan i'r DU bydd arnoch angen pasbort dilys. Gallwch gael ffurflenni cais drwy'r ffyrdd isod:
- Ar-lein drwy'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS)
- Gan Swyddfa'r Post (gwasanaeth gwirio a gyrru)
- Gofynnwch am ffurflen gais ar-lein ac fe wnaiff yr IPS ei hanfon atoch drwy'r post (gadewch hyd at bum diwrnod gwaith i'w chael)
- Ffoniwch y Linell Gymorth Pasbortau 0300 222 0000 a gofynnwch i IPS ei hanfon atoch drwy'r post (gadewch hyd at bum diwrnod gwaith i'w chael)
Y gost ar gyfer adnewyddu pasbort deng mlynedd oedolyn fydd rhwng £77.50 (Gwasanaeth Sylfaenol) a £129.50 (Gwasanaeth Premiwm Un Diwrnod).
Os caiff eich pasbort ei ddwyn neu ei golli tra byddwch dramor, bydd arnoch angen gwneud y canlynol:
- Cysylltwch â'r heddlu lleol yn y wlad y byddwch ynddi cyn gynted ag sy'n bosibl.
- Rhowch wybod am y lladrad neu'r golled i Lysgenhadaeth Prydain, is-gennad neu uchel gomisiynydd y Wlad byddwch ynddi (ceir manylion ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO)
Bydd yr FCO yn rhoi dogfen deithio newydd i chi fel y gallwch deithio yn ôl i'r DU.
Rhagor o wybodaeth am Basbortau ar Wefan DirectGov
Teithebau: Mae rhai gwledydd yn gofyn i chi gael teitheb er mwyn i chi gael mynediad i'r wlad. Gallwch gael ystod eang o wahanol deithebau gan ddibynnu ar eich sefyllfa e.e. teitheb ymwelydd, theitheb gwyliau gweithio, teitheb busnes etc... Ar gyfer pob dim sydd arnoch angen ei wybod am ymgeisio am deitheb edrychwch ar Gwasanaethau Teitheb Asiantaethau Ffiniau’r DU.
ID: 83 Adolygwyd: 21/11/2011
