Arian
Lleihewch y perygl o gael eich arian wedi ei ddwyn tra byddwch ar eich gwyliau drwy ddilyn y cyngor canlynol.
- Cadwch eich arian yn ddiogel dan glo (mae gan y rhan fwyaf o westai sêff)
- Peidiwch â chario eich holl arian gyda chi - cariwch y swm y credwch y bydd ei angen arnoch am y dydd.
- Defnyddiwch wregys arian, bag â sip neu fag â strap ysgwydd a all ffitio ar draws eich corff.
- Dylech gael amrywiaeth o fathau o arian e.e. swm bach o arian lleol mewn darnau arian yn hytrach nag arian papur, sieciau teithio, a defnyddiwch gerdyn credyd/debyd (gallwch ddiogelu eich cerdyn credyd/debyd a sieciau teithio drwy gael polisi yswiriant arnynt)
ID: 82 Adolygwyd: 21/11/2011
