Teithio a Chludiant Lleol
Teithio yn Sir Benfro
Mae rhwydwaith o wasanaethau bysiau lleol ar hyd Sir Benfro yn ogystal ag ystod o wasanaethau trên a mynediad i fferïau a thacsi dŵr.
Mae gan Sir Benfro ystod eang o fysiau arfordirol arbennig hefyd:
Mae'r bysiau yn gwasanaethu'r rhan fwyaf o Lwybr Cenedlaethol yr Arfordir, sef 186 milltir.
Mae menter arall hefyd o'r enw Lonydd Glas Sir Benfro. Mae'n ceisio annog preswylwyr lleol ac ymwelwyr, o bob gallu, i gael mynediad i'r arfordir ac i gefn gwlad drwy ddulliau cludiant cynaliadwy, sef cerdded, seiclo, a theithio ar y bws neu'r trên. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y wefan bwrpasol.
www.pembrokeshiregreenways.co.uk
Teithio o amgylch Cymru a'r DU
I gael gwybod am yr ystod o wasanaethau bysiau ar draws Cymru: Traveline Cymru
Gallwch:
- Weld a lawrlwytho amserlenni.
- Cynllunio eich taith.
- Dod o hyd i'ch arhosfan bws a'ch bws nesaf.
- Cael amserlenni bysiau ar eich ffôn symudol.
- Eu ffonio i gael gwybodaeth ar 0871 200 22 33 (galwadau yn costio 10c y funud a chostau ychwanegol y rhwydwaith)
I gael rhagor o wybodaeth am amserau trenau: National Rail Enquiries 08457 48 49 50
I gael rhagor o wybodaeth am amserau bysiau: National Express 08705 80 80 80
I wneud y mwyaf o'ch teithio o amgylch Cymru, mae'n werth dod i wybod rhagor am Tocyn Archwilio Cymru. Dyma un tocyn sy'n rhoi'r rhyddid i chi fwynhau mynediad diderfyn i holl wasanaethau prif linellau trên Cymru a bron i bob gwasanaeth bws. Mae'n cynnig gwerth am arian ar gyfer teithio yn ystod gwyliau ac mae'n cynnwys mynediad gostyngedig i atyniadau allweddol a llety ledled Cymru.
ID: 78 Adolygwyd: 21/11/2011
