Troi’n Wyrdd
Dyma rai awgrymiadau bob dydd a fydd yn eich helpu i droi'n wyrdd:
- Canfyddwch pa Wasanaethau gwastraff ac ailgylchu sydd gan Gyngor Sir Penfro a thorrwch lawr ar eich gwastraff.
- Mae ambell i gynnyrch fel hylif golchi llestri a phowdwr golchi yn llygryddion - mae rhai brandiau yn well na'i gilydd i'r amgylchedd - canfyddwch a defnyddiwch y rhai hyn.
- Mae peiriannau golchi llestri'n defnyddio llawer o ddŵr felly pam na wnewch chi olchi'r llestri yn y modd hen ffasiwn mewn basn o ddŵr twym a sbwng.
- Golchwch eich dillad mewn dŵr llai cynnes er mwyn arbed ynni.
- Defnyddiwch fylbiau golau sy'n arbed ynni.
- Diffoddwch y goleuadau a'r offer trydanol os nad ydych yn eu defnyddio.
- Mynnwch gawod yn lle bath - mae'n arbed dŵr.
Llenwch y tegell gydag ond digon o ddŵr a fydd ei angen arnoch - mae'r gweddill yn wastraff ynni.
Sut mae disgyblion Sir Benfro yn gwneud eu rhan:
Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy.
Mae'r cynllun hwn yn edrych ar Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
'Mae Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yn ymwneud â'r pethau rydym yn eu gwneud bob dydd. Mae'n ymwneud â'r materion mawr sydd yn wynebu'r byd - fel newid yn yr hinsawdd, masnach, hawliau dynol, gwrthdaro a democratiaeth - ac am y modd maent yn perthyn i'w gilydd ac i ni. Mae'n ymwneud â'r modd rydym yn trin y ddaear a'n gilydd, pa mor bell bynnag rydym yn byw oddi wrth ein gilydd. Mae'n ymwneud â'r modd rydym yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Mae gan bob un ohonom ei ran i'w chwarae.'
Mae wyth pwnc yn y cynllun. Mae ysgolion yn dilyn tri phwnc ar gyfer y wobr efydd, tri arall ar gyfer y wobr arian a'r ddau olaf ar gyfer y wobr aur, ac erbyn hynny dylai'r ysgol fod yn gweithredu'n gynaliadwy.
Dyma'r pynciau:
- Gwastraff a lleihau ysbwriel.
- Dŵr.
- Bioamrywiaeth.
- Byw yn iach.
- Ynni.
- Cludiant.
- Dinasyddiaeth Fyd-eang.
- Dinasyddiaeth Gymunedol.
Dyma enghreifftiau o brosiectau ysgol a gynhaliwyd:
'Aeth dosbarth blwyddyn pedwar i ganolfan ailgylchu yn Withyhedge ac wedyn creu ffilm am wastraff ac ailgylchu yn Sir Benfro.'
'Mae dosbarth blwyddyn dau yn astudio crwbanod y môr a'u bwyd, yn gysylltiedig â sbwriel y môr ac yn annog pobl leol i ddefnyddio bagiau lliain gan fod crwbanod y môr yn marw os ydynt yn bwyta bagiau plastig am eu bod yn credu mai sglefrod môr ydynt. Cysylltwyd hwn â'r ymgyrch leol i wneud y pentref yn rhydd o fagiau plastig.'
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â :
Janie Pridham, Swyddog Prosiect Ysgolion Cynaliadwy,
Global Connections,
Pier House,
Hobbs Point,
Doc Penfro,
SA72 6TR.
(01834) 869302
ID: 71 Adolygwyd: 21/11/2011
