Ymddiriedolaeth y Tywysog
- Dim arian?
- Dim cefnogaeth?
- Dim hyder?
- Dim sgiliau?
- Neb yn gwrando arnoch?
Os ydych rhwng 14 a 30, gallai Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru eich helpu i symud ymlaen.
Mae Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru'n cynnig atebion ymarferol i helpu pobl ifanc i wneud rhywbeth â'u bywydau. Rydym yn helpu bron i 6,000 o bobl ifanc yng Nghymru bob blwyddyn.
Rydym yn helpu pobl ifanc i wneud y canlynol:
Datblygu eu hyder, eu sgiliau a'u cyfleoedd i gael gwaith:
Drwy dîm datblygu personol, deuddeg wythnos, sy'n llawn gweithgareddau, a thrwy grantiau i grwpiau ar gyfer prosiectau cymunedol.
Gwella cyfleusterau cymunedol lleol:
Drwy gefnogaeth a chymorth ariannol i helpu pobl ifanc i gyflawni prosiectau er mwyn gwella'u cymunedau lleol.
Goresgyn rhwystrau a gwneud rhywbeth â'u bywydau:
Drwy gefnogaeth mentor i bobl ifanc sy'n gadael gofal.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am y cyrsiau isod cysylltwch ag:
Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru
Cleddau Reach, Dwyrain Llanion, Doc Penfro, SA72 6BJ.
Ffôn: (01646) 622013
Ebost: pac@princes-trust.org.uk
Gwefan Leol Ymddiriedolaeth y Tywysog (mewn ffenestr newydd)
ID: 159 Adolygwyd: 8/12/2011
