Hawliau Cyflogaeth
Mae gan bawb sy'n gweithio hawliau cyflogaeth. Does dim gwahaniaeth faint o oriau rydych yn eu gweithio na pha fath o waith rydych yn ei wneud.
Pan fyddwch yn 13 oed gallwch gael swydd. Fodd bynnag, mae yna gyfreithiau yn ymwneud â faint o oriau y gallwch eu gweithio a pha fath o waith y cewch ei wneud. Pwrpas y cyfreithiau hyn yw eich cadw'n ddiogel a gwneud yn siŵr eich bod yn dal i allu mynd i'r ysgol yn ystod y dydd. Cliciwch yma i gael gwybod beth yw'r rheolau ynglŷn â phlant yn gweithio:
Cyflogi Plant Oed Ysgol (mewn ffenestr newydd)
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau cyflogaeth drwy ymweld â'ch canolfan Cyngor Ar Bopeth leol.
Gwefan ddefnyddiol arall sy'n cynnwys llawer o wybodaeth am hawliau cyflogaeth yw: Gwefan Clic Ar-lein (mewn ffenestr newydd)
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am gyfraith cyflogaeth, gallwch ymweld â gwefan BIS (Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau y DU):
Gwefan BIS (mewn ffenestr newydd)
ID: 157 Adolygwyd: 10/9/2012
