Di-waith
Os ydych dan 18 oed
Dylech gofrestru yn eich Canolfan Yrfaoedd leol. Mae gan Gyrfa Cymru - Gorllewin gynghorwyr gyrfaol arbenigol ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed, a gallant eich helpu i ddod o hyd i waith neu le ar gwrs coleg.
Mae Canolfannau Gyrfaoedd Sir Benfro yn:
2A Meyrick Street, Doc Penfro, SA72 6UT. Ffôn: (01646) 623510
Marine House, Nantucket Avenue, Aberdaugleddau, SA73 2BE. Ffôn: (01646) 691940
31-33 Stryd Fawr, Hwlffordd, SA61 2BW. Ffôn: (01437) 772100
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Gyrfa Cymru: Gwefan Gyrfa Cymru (mewn ffenestr newydd)
Os ydych dros 18 oed
Bydd angen i chi gofrestru gyda'ch Canolfan Byd Gwaith leol hefyd er mwyn bod yn gymwys i gael unrhyw fudd-daliadau y gallech fod â hawl i'w cael.
Mae Canolfannau Byd Gwaith Sir Benfro yn:
Gordon Street, Doc Penfro, SA72 6EP. Ffôn: (01646) 483400
16-20 Quay Street, Hwlffordd, SA61 1BH. Ffôn: (01437) 823200
101-101a Charles Street, Aberdaugleddau, SA73 2HL. Ffôn: (01646) 483600
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Ganolfan Byd Gwaith: Gwefan y Ganolfan Byd Gwaith (mewn ffenestr newydd)
Os ydych rhwng 16 a 25 oed ac yn ddi-waith, gallwch ymuno â rhaglen Tîm Ymddiriedolaeth y Tywysog.
C. Beth yw'r Tîm?
A. Gallwch ymuno â thîm o hyd at 15 o bobl am 12 wythnos o hyfforddiant, profiad gwaith a gweithgareddau llawn hwyl.
Yn ystod y 12 wythnos byddwch yn:
- Cyflawni prosiectau cymunedol o'ch dewis.
- Treulio wythnos ar gwrs preswyl llawn gweithgareddau.
- Cael pythefnos o brofiad gwaith.
Beth fyddwch chi'n ei gael ohono?
Yn ystod y 12 wythnos byddwch yn cael:
- Sgiliau ymarferol sy'n eich helpu mewn gwaith ac yn eich bywyd bob dydd.
- Ffrindiau newydd a llawer o hwyl.
- Cymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol.
- Cyngor gyrfaol.
- Help i ysgrifennu CV a chwilio am waith.
- Y boddhad o wneud gwahaniaeth yn eich cymuned.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Tîm gallwch gysylltu ag:
Ymddiriedolaeth y Tywysog, Cleddau Reach, Doc Penfro, SA72 6UJ.
Ffôn: (01646) 622013
ID: 156 Adolygwyd: 8/12/2011
