Dewisiadau 16+ oed
Ydych chi ym Mlwyddyn 11?
Ydych chi'n gwybod beth rydych am ei wneud y flwyddyn nesaf neu a oes angen mwy o wybodaeth arnoch i'ch helpu i benderfynu? Mae ystod o ddewisiadau ar gael i chi.
|
Aros yn yr ysgol ar gyfer y chweched dosbarth |
|
Byddwch yn gallu astudio'r pynciau rydych yn eu hoffi mewn mwy o ddyfnder, mewn amgylchedd rydych yn teimlo'n gartrefol ynddo gyda'ch ffrindiau. I wybod mwy am y chweched dosbarth yn eich ysgol chi, ewch i'r dudalen Ysgolion a fydd yn eich arwain at wefan eich ysgol. |
Coleg
Dyma gyfle ardderchog i chi astudio pynciau o'ch dewis chi os nad yw'r rhai mae eich ysgol yn eu cynnig yn addas. Hefyd, bydd y Coleg yn eich cyflwyno i bobl newydd ac arddull addysgol wahanol. I wybod mwy ewch i Goleg Sir Benfro
|
Cyflogaeth |
|
Gall byd gwaith gynnig y cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd, cael cyfrifoldebau, cyfarfod â phobl newydd ac ennill rhywfaint o arian. I wybod mwy am y llwybrau gyrfaoedd sydd ar gael ewch i GyrfaCymru. |
|
Cyflogaeth â hyfforddiant |
|
Gall prentisiaeth gynnig buddion cyflogaeth, a bydd yr holl sgiliau newydd byddwch yn eu dysgu yn cyfrif tuag at gymhwyster. I wybod mwy ewch i dudalennau Cyflogaeth a Hyfforddiant |
|
Blwyddyn i ffwrdd |
|
Gallwch dreulio amser yn teithio neu wirfoddoli gydag elusen. Bydd hwn yn gyfle i chi gael llwyth o brofiadau newydd na fyddwch byth yn eu hanghofio. I wybod mwy ewch i'n tudalennau ar Blwyddyn i ffwrdd |
ID: 47 Adolygwyd: 21/11/2011
