Arholiadau ac Adolygu
Mae adolygu a pharatoi ar gyfer arholiad yr un mor bwysig â sefyll yr arholiad ei hun. Dyma rai o'r awgrymiadau gorau i'ch helpu chi:
Paratoi
- Cyn dechrau adolygu, gwnewch amserlen sy'n rhoi digon o amser ar gyfer pob pwnc gan ystyried cyfrifoldebau eraill fel gwaith tŷ, gwaith rhan-amser a chymdeithasu.
- Trefnwch eich llyfrau/nodiadau adolygu fel bod popeth yn ei le ac y gallwch ddod o hyd iddo'n hawdd.
- Os ydych yn credu eich bod wedi colli rhai dosbarthiadau pwysig, gofynnwch i'ch athro am y nodiadau rydych wedi eu colli neu os gallant gymeradwyo canllaw astudio da fel y gallwch ddal i fyny.
Adolygu
- Chwiliwch am le tawel i weithio heb unrhyw beth i dynnu eich sylw oddi ar y gwaith.
- Mae'r barnau amrywiol ynglŷn â gwrando ar gerddoriaeth. Efallai y bydd yn eich helpu chi i ganolbwyntio.
- Gall canolbwyntio tra'n adolygu fod yn anodd, felly cymerwch seibiannau byr a rheolaidd, bydd pum munud pob hanner awr yn cadw eich ymennydd yn effro! e.e. gwrando ar gân ar y radio, gadael eich gofod astudio, ewch i wneud diod i'ch hun.
Meddyliwch am y ffordd orau i adolygu o'ch safbwynt chi e.e.
- Adolygu ar eich pen eich hun.
- Adolygu gyda ffrind.
- Adolygu mewn un sesiwn hir pob dydd.
- Adolygu mewn sesiynau byr gydol y dydd.
- Gwneud crynodeb o'ch nodiadau a'u rhoi ar gardiau fflach neu ar daflen A4.
- Gwneud nodiadau bras yn eich geiriau eich hun, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn deall y testun yn hytrach na dim ond copïo'r nodiadau allan fel parot.
- Gwneud nodiadau ac amlygu'r ffeithiau pwysig yn y testun.
Arholiad
- Er mwyn osgoi pwysau cyn eich arholiad, gwiriwch eto adeg a lleoliad yr arholiad a cheisiwch gyrraedd yno mewn da bryd cyn i'r arholiad ddechrau.
- Cyn gadael y tŷ, gwiriwch bod gennych bopeth y bydd ei angen arnoch e.e. pinnau, pinnau ychwanegol, rwber, cyfrifiannell ac ati...
- Yn ystod yr arholiad ceisiwch osgoi bod yn rhy nerfus - cymerwch eich amser, darllenwch y cwestiynau'n iawn, gwnewch nodiadau bras os oes angen cyn ysgrifennu ar eich papur arholiad - a'r peth pwysicaf i gyd, ceisiwch ymlacio - byddech yn synnu faint rydych yn ei wybod!
Erthyglau Perthasol
ID: 45 Adolygwyd: 15/5/2013
