Rhestr wirio - Ydy'r hyn rydyn ni'n chwilio amdano gennych chi?
Mae angen i chi allu ticio pob un o'r blychau hyn i fod yn gymwys i wneud cais am grant Banc Ieuenctid Sir Benfro. Mae croeso i chi gysylltu â ni os nad ydych yn siŵr a allwch wneud cais am grant neu os oes gennych unrhyw gwestiwn.
- Ydych chi'n berson ifanc rhwng 11 a 25 oed neu mewn grŵp lle mae o leiaf 50% ohonoch yn bobl ifanc?
- Ydych chi'n byw yn Sir Benfro?
- A oes oedolyn yn gysylltiedig â chi neu eich grŵp (18 oed neu'n hŷn)?
- A yw eich prosiect yn helpu'r rhai sy'n cymryd rhan ac yn helpu'r gymuned?
- A fyddwch yn rhoi tystiolaeth o'r prosiect cyflawn? (h.y. derbyn ymweliad gan y Banc Ieuenctid, tynnu lluniau neu wneud fideo, rhoi manylion ysgrifenedig am y prosiect)
- Ydych chi'n barod i hyrwyddo Banc Ieuenctid Sir Benfro?
- A all rhywun ifanc lenwi'r ffurflenni neu wneud cais fideo a llenwi'r Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal? (Derbynnir cymorth gan oedolyn)
Os gallwch roi tic ym mhob un o'r blychau, edrychwch ar Sut i wneud cais am grant Banc Ieuenctid!
Oes yna rywun na fyddwn yn ei ariannu?
- Ni all y Banc Ieuenctid ariannu prosiectau crefyddol / gwleidyddol ac nid oes gennym ddaliadau gwleidyddol neu grefyddol.
- Ni all Banc Ieuenctid Sir Benfro ariannu unrhyw beth sy'n anghyfreithlon neu'n wahaniaethol, neu a fyddai'n rhoi enw drwg i ni.
- Gallwch wneud cais am arian gan y Banc Ieuenctid fwy nag unwaith, ond ni fyddwn yn ariannu grwpiau sydd heb roi adborth i ni yn y gorffennol na thystiolaeth i ddangos sut y gwariwyd yr arian.
ID: 125 Adolygwyd: 31/1/2012
