Rheolau Aur YouthBank UK
Mae'r rheolau hyn yn ein helpu i wneud ein gwaith yn iawn ac yn sicrhau bod y bobl ifanc sy'n ymwneud â Banc Ieuenctid Sir Benfro yn cyflawni eu potensial yn llawn.
Y Rheolau Aur yw:
- Rhaid i weithgareddau'r Banc Ieuenctid gael eu harwain gan bobl ifanc - ar lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a ledled y DU. Rôl yr oedolion yn y Banc Ieuenctid yw cynnig cymorth a chyngor.
- Mae'r Banc Ieuenctid yn agored i'r holl bobl ifanc. Rydym yn cydnabod bod gan rai pobl ifanc rwystrau i'w gorchfygu cyn iddynt fedru ymrwymo eu hunain - byddwn yn gwneud ein gorau i gynnwys y bobl ifanc hyn yn y Banc Ieuenctid
- Mae'r Banc Ieuenctid yn cynnig y cyfle i bobl ifanc ddarganfod pethau am fywydau ei gilydd, ynghyd â'u diwylliannau a'u profiadau mewn amgylchedd cefnogol. Felly, mae'n rhaid i'r Banc Ieuenctid barchu gwahaniaethau a doniau'r holl bobl ifanc.
- Mae'n rhaid i weithgareddau'r Banc Ieuenctid fod yn atebol, a rhaid monitro ac adrodd yn ôl ynglŷn â lle a sut y gwariwyd yr arian.
- Dylai'r Banciau Ieuenctid gyfathrebu'n glir, gan ddefnyddio iaith syml (dim jargon), i wneud yn siŵr bod gan bobl ifanc yr wybodaeth orau bosibl am weithgareddau'r Banc Ieuenctid ar bob lefel.
- Rhaid i weithgaredd y Banc Ieuenctid ychwanegu at sgiliau, gwybodaeth a phrofiad pobl ifanc - gan ddefnyddio ystod o hyfforddiant, profiadau newydd a dysgu seiliedig ar weithgaredd lle bynnag y bo'n bosibl.
- Mae angen i Fanciau Ieuenctid neilltuo amser ar gyfer dysgu o'r hyn y maent yn ei wneud - ystyried eu gweithgaredd ar bob lefel heb ofni newid y ffordd y maent yn gweithredu.
- Mae angen i Fanciau Ieuenctid ddathlu llwyddiant pobl ifanc. Mae Banc Ieuenctid yn ffordd dda i bobl ifanc ddatblygu'r hyn y gallant ei wneud. Mae angen i ni gyfleu'r neges hon a chael hwyl hefyd!
- Rhaid i Fanciau Ieuenctid gynorthwyo pobl ifanc i ddeall rhwydwaith YouthBank UK gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu'n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
- Bydd y Banc Ieuenctid yn gweithio mewn partneriaeth â phobl ifanc eraill, grwpiau neu sefydliadau lle mae manteision i bawb ddysgu, datblygu a hyrwyddo darlun cadarnhaol o bobl ifanc.
ID: 122 Adolygwyd: 23/1/2013
