Cylchfa Sir Benfro

Pwy ydym ni?


Mae Banc Ieuenctid Sir Benfro'n cynnwys pobl ifanc o bob cwr o Sir Benfro. Rydym i gyd rhwng 11 a 25 oed ac mae pob un ohonom yn cyflawni tasgau gwahanol ym Manc Ieuenctid Sir Benfro. Ein henwau yw:

Alice Dean - Ysgrifenyddes

Kizzie Tooby - Swyddog y We

Thomas Stuart-Walvin - Swyddog y Cyfryngau

Siana Wilson - Gweithiwr Prosiect

Connor O'Neill - Gweithiwr Prosiect

Pwy sy'n ein Cefnogi?

Mae Banc Ieuenctid Sir Benfro'n cael ei redeg gan bobl ifanc ond mae'n dod dan adain Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro, sy'n rhan o Gyngor Sir Penfro (mewn ffenestr newydd). Mae'r Banc Ieuenctid yn cael ei gefnogi gan staff y gwasanaeth Gwybodaeth a Chyfranogiad Ieuenctid.

Tim Ramsey - Cydlynydd y Banc Ieuenctid

Mae Tim yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r Banc Ieuenctid er mwyn cynorthwyo'r bobl ifanc â'r penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud a'u helpu i gael gafael ar adnoddau a gwasanaethau eraill.

Rose Davis - Cydlynydd Gwybodaeth a Chyfranogiad Ieuenctid

Yn gydlynydd y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyfranogiad Ieuenctid, mae Rose yn cefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Fanc Ieuenctid Sir Benfro.

 

 





ID: 121 Adolygwyd: 8/12/2011