Datganiad o Ddiben
"Gweithio gyda phobl ifanc ar eu llwybr i fod yn oedolion, gan ddarparu cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac agweddau a fydd yn fuddiol iddynt hwy a'u cymunedau fel ei gilydd "
Er mwyn cyflawni'r nodau hyn bydd Ieuenctid Sir Benfro yn:
- Cynnig gwasanaethau, cyfleusterau a chyfleoedd o safon uchel i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yn Sir Benfro gan roi blaenoriaeth i'r rhai sydd rhwng 11 ac 19 oed.
- Mewn partneriaeth â phobl Sir Benfro, cynnig darpariaeth i'r ifanc fydd yn cydymffurfio â'r egwyddorion a amlinellir yn Natganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru gan flaenoriaethu eu datblygiad personol, cymdeithasol a gwleidyddol.
- Darparu gwasanaeth yng nghyd-destun y Bartneriaeth Pobl Ifanc sy'n sicrhau bod rhwydwaith o wasanaethau'n cael ei ddarparu i bobl ifanc yn Sir Benfro a fydd yn eu galluogi i fanteisio ar eu hawl sylfaenol i wasanaethau.
- Sicrhau bod y ddarpariaeth i bobl ifanc yn ymateb i anghenion yr ifanc, eu bod yn cael eu cynnwys mewn ymgyngoriadau a phenderfyniadau, a bod eu barn ynglŷn â materion sy'n effeithio ar eu bywydau hwy yn cael ei chlywed.
- Targedu a chefnogi pobl ifanc sydd mewn angen, y rhai sydd dan anfantais neu wedi'u dadrithio neu mewn perygl o ddatgysylltu eu hunain o fyd addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth er mwyn rhoi cyfle cyfartal iddynt gyflawni eu potensial.
- Galluogi pobl ifanc i wella eu dewisiadau mewn bywyd drwy roi mynediad iddynt at wybodaeth berthnasol, cefnogaeth broffesiynol ac arweiniad ar faterion sy'n effeithio arnynt.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro yn gwbl ymroddedig i weithio gyda'i bartneriaid yn y Bartneriaeth Pobl Ifanc er mwyn:
- Cyfrannu yn bartner llawn er mwyn datblygu Partneriaeth Pobl Ifanc Sir Benfro
- Datblygu cynllun strategol a blaenoriaethau i gwrdd â'r hawliau cyffredinol ac i ddarparu gwasanaethau cefnogi pobl ifanc, yn y cyfnod 2003 - 2008.
- Sicrhau trefniadau i wneud yn siŵr bod amrywiaeth o bobl ifanc yn cymryd rhan ac yn cyfrannu tuag at y gwaith o lunio strategaeth y bartneriaeth.
- Archwilio darpariaeth, anghenion, adnoddau a sgiliau presennol.
- Monitro a gwerthuso cynnydd sy'n cael ei wneud er mwyn cyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
- Datblygu gweithgareddau hyfforddi ar y cyd er mwyn diwallu anghenion y Bartneriaeth.
- Ymgynghori'n eang ar strategaethau drafft ac ystyried unrhyw safbwyntiau sy'n cael eu mynegi.
- Paratoi cynlluniau cyflenwi gwasanaeth blynyddol ac adroddiadau cynnydd a sicrhau bod y rhain ar gael yn eang.
- Gweithredu Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru.
ID: 276 Adolygwyd: 16/5/2012
