Ysgolion
Mae gweithwyr ieuenctid sydd wedi'u lleoli yn ysgolion uwchradd Sir Benfro'n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad drwy gydol y flwyddyn i unrhyw un sydd arnynt eisiau cefnogaeth. Mae pob gweithiwr ieuenctid yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol o'u hystafelloedd ieuenctid eu hunain lle gall pobl ifanc deimlo'n ddiogel a gwybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae gweithwyr ieuenctid hefyd yn cynnig cymorth i ddisgyblion ysgolion cynradd, yn enwedig pan fyddant yn symud i'r ysgol uwchradd.
Mae gweithwyr ieuenctid hefyd yn darparu rhaglen brofiadau a chyfleoedd sy'n helpu pobl ifanc i ddysgu amdanynt eu hunain, a'u cymunedau, i'w helpu i gael rhagor o reolaeth dros eu bywydau a dod yn fwy abl i adnabod a gwrthod y dylanwadau niweidiol a allai effeithio arnynt. Mae rhai o'r rhaglenni hyn hefyd yn cynnig ardystiad i gydnabod llwyddiannau pobl ifanc, e.e. Gwobr Dug Caeredin, Gwobr Cyflawniad Ieuenctid, Ymddiriedolaeth y Tywysog x1, a Getting Connected.
Cwricwlwm Ieuenctid Sir Benfro (mewn ffenestr newydd)
Mae gweithwyr ieuenctid yn gweithio'n agos iawn gydag asiantaethau eraill er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael y gwasanaeth gorau posibl. Mae'r partneriaid yn cynnwys ysgolion, swyddogion cefnogi disgyblion, nyrsys ysgol, Gwasanaeth Cymorth Ymddygiad, Timau Troseddau Ieuenctid, Gwasanaeth Arbenigol i'r Rhai dan 18 oed ynghylch Alcohol a Chyffuriau (SUDDS), Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru, Gyrfa Cymru - Gorllewin a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Edrychwch ar y dolenni cyswllt isod:
ID: 272 Adolygwyd: 27/1/2012

