Wyddech Chi?
- Yn Sir Benfro, mae yna Saith canolfan ieuenctid, 26 gweithiwr ieuenctid amser llawn a thros 60 o weithwyr ieuenctid rhan-amser.
- Mae cynllun Gwobr Dug Caeredin (mewn ffenestr newydd) yn cael ei redeg gan Ieuenctid Sir Benfro ac mae ar gael i bobl ifanc ym mhob cwr o'r sir.
- Mae yna weithwyr ieuenctid mewn Ysgolion Uwchradd (mewn ffenestr newydd) ym mhob cwr o Sir Benfro sy'n cynnig cefnogaeth i ddisgyblion sy'n cael anawsterau.
- Mae yna weithiwr ieuenctid penodol ar gyfer pobl ifanc sydd ag anabledd.
- Bob blwyddyn, mae pobl ifanc o Sir Benfro'n cymryd rhan mewn rhaglen o gystadlaethau sy'n arwain at rowndiau terfynol cenedlaethol Cymru (mat dawnsio, dodgeball a dawnsio disgo i enwi ond ychydig).
- Mae yna weithwyr ieuenctid yn y Tîm Troseddau Ieuenctid a'r Gwasanaeth Cymorth Ymddygiad sy'n cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sy'n cael anawsterau.
ID: 253 Adolygwyd: 3/10/2012
