Pembrokeshire Leisure Lunch With Lennie Clic Online Health Challenge Pembrokeshire
look again |
*

Cyflwyniad

-

Prosiect Cymryd Rhan i bobol ifanc yn Sir Benfro ydyw Gennex. Mae’n rhoi cyfle i bobol ifanc i fod yn rhan o wneud penderfyniadau neu gynllunio neu adolygu unrhyw weithred allai eu heffeithio.

-

Mae Gennex yn cynnwys elfennau gwneud penderfyniadau gwahanol megis:

-

Fforymau Cymunedol (Mewn ffenest newydd), sy’n digwydd drwy holl ganolfannau ieuenctid Sir Benfro ac sy’n anelu at fod yn fwy cynrychiadol o gymunedau trwy ymdrechu i weithio gyda grwpiau ieuenctid eraill megis CFfI, Sgowtiaid, Geidiaid, Cadetiaid etc…..gwriwch dudalennau unigol y fforymau am fanylion..

-

Fforymau Diddordeb Arbenigol (Mewn ffenest newydd), sy’n tynnu at ei gilydd pobol ifanc sydd â’r un achosion/diddordebau. Mae Gennex ar hyn o bryd yn trefnu fforymau arbenigol i ofalwyr ifanc, pobol ifanc sy’n derbyn gofal (Fforwm-X) a phobol ifanc anabl (Lleisiau’r Ifanc yn Dewis)

-

Mae Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro (Mewn ffenest newydd) yn anelu at gynrychioli yr ieuenctid i gyd ar draws Sir Benfro. Mae cyfarfodydd yn digwydd drwy’r flwyddyn gyda dau gynrychiolydd o bob fforwm pobol ifanc ardal, fforymau diddordeb arbenigol a chynghorau ysgol. Mae’r cynrychiolwyr yn bwydo gwybodaeth berthnasol i ac oddi wrth y Cynulliad. Bydd y Cynulliad Ieuenctid hefyd yn bwydo ar lefel genedlaethol i’r Draig Ffynci (Mewn ffenest newydd)(Cynulliad Plant a Phobol Ifanc Cymru)  a Comisiynydd Plant Cymru (Mewn ffenest newydd)

-


Er mwyn edrych ar strwythur Gennex yn gyffredinol cliciwch ar y cyswllt Diagramau Cynulliad Ieuenctid (lawrlwytho 31k Mewn ffenest newydd)

-

Cabinet Ieuenctid Milton Keynes

I weld lluniau o'n cyfarfod Cabinet Ieuenctid Milton Keynes diweddar, cliciwch y ddolen ganlynol:-:- MK Youth Cabinet visit (Mewn ffenest newydd) , Milton Keynes visit (Mewn ffenest newydd)

-

 Cynhelir cwrs preswyl y Cynllun Sengl ar 22 a 23 Gorffennaf yn Lawrenni.  Cynhelir cwrs preswyl y Ddraig Ffynci rhwng 15 ac 17 Gorffennaf yng Nghaerdydd.  Cysylltwch â Nadine i gael rhagor o fanylion. 

-

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os hoffech chi gymryd rhan yna cysylltwch â thîm Gennex, os gwelwch yn dda, ar:

-

Nadine Farmer

Pembroke Dock Youth Centre

Bush Street,

SA72 6HQ


Tel: 01646 680863/ 07795 612 917

 nadine.farmer@pembrokeshire.gov.uk

-

Cofiwch “ Cael llais, cael dewis”


 



ID: 2667   Adolygwyd: 29/6/2010